Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2016
Amser: 09.02 -
11.04
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Alistair McQuaid (Swyddfa Archwilio Cymru) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun ar gyfer y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor.
3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol gan ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion.
4.1 Nododd a thrafododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law yn dilyn y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2015.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ionawr.